Episode 3
Pennod 3

Little Haven, Pembrokeshire
Protecting Rainforests
Aber Bach, Sir Benfro
Gwarchod Coedwigoedd Glaw

PROJECT 002

Watch episode 3 with Welsh subititles here.

Little Haven’s Celtic Rainforest

An ancient Celtic Rainforest clings to the rugged cliffs at Little Haven, Pembrokeshire. The stunted, twisted oak trees are festooned with ferns, mosses and lichens. In springtime, carpets of bluebells clothe its rocky slopes.

Celtic, or Atlantic, Rainforests, are ancient woodlands on the western fringes of the British Isles. They are ideal habitats for epiphytic plants. Little Haven’s woodland is thought to hold the largest populations of some of Wales’ rarest lichens, having escaped the air pollution that affects much of our countryside. The long continuity of tree cover, providing a humid, sheltered environment, has protected a diverse range of ‘old forest’ lichens growing on trees and coastal rocks.

The Pembrokeshire Coast National Park Authority is clearing non-native rhododendron and laurel from the site, as they cast too much shade for lichens to grow. We are planting suitable trees for lichens at nearby locations and planting a hedge along the woodland boundary to safeguard its clean air. In decades to come, these rare lichens will be able to spread out to new areas, creating resilient populations for the future.

Fforest Law Geltaidd Aber Bach

Mae Fforest Law Geltaidd hynafol yn glynu wrth y clogwyni geirwon yn Aberbach, Sir Benfro. Mae'r coed derw crebachlyd, troellog wedi'u gorchuddio â rhedyn, mwsoglau a chennau. Yn y gwanwyn, mae carpedi o glychau'r gog yn gorchuddio’r llethrau creigiog.

Mae Fforestydd Glaw Celtaidd, neu Fforestydd yr Iwerydd, yn goetiroedd hynafol ar gyrion gorllewinol Ynysoedd Prydain. Maent yn gynefinoedd delfrydol ar gyfer planhigion epiffytig. Credir mai coetir Aberbach sydd â’r poblogaethau mwyaf o rai o gennau prinnaf Cymru, ar ôl dianc rhag y llygredd aer sy’n effeithio ar lawer o’n cefn gwlad. Mae gorchudd coed ar hyd y blynyddoedd wedi golygu amgylchedd llaith, cysgodol sydd wedi diogelu ystod amrywiol o gennau 'fforest hynafol’ sy'n tyfu ar goed a chreigiau ar y glannau.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn clirio rhododendron a llawryf anfrodorol o'r safle, gan eu bod yn taflu gormod o gysgod i gennau allu tyfu. Rydym yn plannu coed addas ar gyfer cennau mewn lleoliadau cyfagos ac yn plannu gwrych ar hyd ffin y coetir i ddiogelu ei aer glân. Mewn degawdau i ddod, bydd y cennau prin hyn yn gallu lledaenu i ardaloedd newydd, gan greu poblogaethau gwydn ar gyfer y dyfodol.

are funding Wild Spaces

Pembrokeshire Coast National Park

The Pembrokeshire Coast National Park is the UK’s only truly coastal National Park, where dramatic cliffs, sweeping beaches, hidden coves, and wildlife-rich offshore islands create an unforgettable landscape. Steeped in history, it’s home to Iron Age forts, medieval castles, and ancient ports, while rare birds, Atlantic grey seals, and playful dolphins thrive along its shores. The world-famous Coast Path stretches for 186 miles, offering breathtaking views and endless opportunities for exploration. Whether you’re spotting seabirds on Skomer, wandering wildflower-strewn headlands, or simply taking in the sea air, Pembrokeshire is a place that stays with you.

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw'r unig Barc Cenedlaethol gwirioneddol arfordirol yn y DU, lle mae clogwyni dramatig, traethau ysgubol, cildraethau cudd, ac ynysoedd alltraeth sy'n gyfoeth o fywyd gwyllt yn creu tirwedd fythgofiadwy. Wedi'i drwytho mewn hanes, mae'n gartref i gaerau Oes Haearn, cestyll canoloesol, a phorthladdoedd hynafol, tra bod adar prin, morloi llwyd yr Iwerydd, a dolffiniaid chwareus yn ffynnu ar hyd ei lannau. Mae'r Llwybr Arfordir byd-enwog yn ymestyn am 186 milltir, gan gynnig golygfeydd syfrdanol a chyfleoedd diddiwedd i archwilio. P'un a ydych chi'n gwylio adar môr ar Sgomer, yn crwydro pentiroedd llawn blodau gwyllt, neu'n mwynhau awyr y môr, mae Sir Benfro yn lle sy'n aros gyda chi.

The Pembrokeshire Coast is one of the UK’s most treasured landscapes, home to rare wildlife, fragile habitats, and stunning coastal scenery. Maintaining this 186-mile coastline requires ongoing conservation efforts to ensure it remains a thriving environment for both nature and people.

By donating today, you can help us preserve and restore the special habitats that make this coastline so unique. Your support will enable us to protect grasslands, woodlands, heathlands, and marine environments, ensuring they remain for future generations to enjoy.

Every contribution, no matter the size, makes a difference. Donate today and be a part of safeguarding the Pembrokeshire Coast.

Mae Arfordir Penfro yn un o’r tirweddau a werthfawrogir fwyaf yn y DU, yn gartref i fywyd gwyllt prin, cynefinoedd bregus, a golygfeydd arfordirol godidog. Mae cynnal y 186 milltir hwn o arfordir yn gofyn am ymdrechion parhaus o waith cadwraeth i sicrhau bod y glannau yn parhau i fod yn amgylchedd ffyniannus i fyd natur ac i’r bobl.

Drwy gyfrannu heddiw, gallwch ein helpu i warchod ac adfer y cynefinoedd arbennig sy'n gwneud yr arfordir hwn mor unigryw. Bydd eich cymorth yn ein galluogi i warchod glaswelltiroedd, coetiroedd, rhostiroedd, ac amgylcheddau morol, gan sicrhau eu bod yn parhau i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.

Mae pob cyfraniad, waeth beth fo'i faint, yn gwneud gwahaniaeth. Cyfrannwch heddiw a byddwch yn rhan o warchod Arfordir Penfro.

DONATE TODAY